Crynodeb o gyfarfod 29 Mawrth 2017 y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol

Aelodau Cynulliad yn bresennol

Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol
Mike Hedges AC
David Rees AC

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Muscular Dystrophy UK, Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol

·         Triniaethau newydd: Exondys 51 ar gyfer nychdod cyhyrol a nusinersen ar gyfer atroffi cyhyrol y meingefn

·         Cydnabod bylchau mewn capasiti treialon clinigol mewn canolfannau cyhyrol yn y DU, a gweithio gyda NIHR i fynd i'r afael â'r diffyg

·         Y wybodaeth ddiweddaraf o ran gwella derbyn cleifion i'r ysbyty - ymateb positif i rôl cardiau rhybudd a chynlluniau gofal oherwydd y trosiant cyflym o ran staff

·         Argymhelliad ffisiotherapi - peidio â chwilio am esgyrn wedi torri yn unig

·         Tynnu sylw at nychdod cyhyrol er mwyn gallu ymateb yn well mewn achos brys

·         Enghraifft o adborth - heb gael sylw mewn adran ddamweiniau ac achosion brys wrth ddangos cerdyn gwybodaeth cyflwr - mae angen addysgu adrannau damweiniau ac achosion brys

·         Dylanwadu drwy fforwm cleifion - annog cyfranogiad meddygon teulu yn y modiwl meddygon teulu ar-lein

·         Llwybr at feddygon teulu drwy wefan GP Un

 

Y diweddaraf am Fy Ngofal - Dr Mark Rogers

·         Cynllun gofal brys - ar bapur ar hyn o bryd, ond wrthi'n cael ei dreialu'n electronig ar ffurf cwmwl

·         Cwymplenni i ddangos gwybodaeth

·         Hawdd ei ddiweddaru gan ei fod yn electronig

·         Mae'n ddefnyddiol gweld pa wybodaeth sydd angen ei chasglu

 

Y diweddaraf gan Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru

·         Gwieithio'n agos gyda gweithwyr iechyd porffesiynol a Muscular Dystrophy UK i ddatblygu Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru

·         Proses yr adolygiad gan gymheiriaid â Rhwydweithiau eraill

·         Recriwtio ar gyfer cymorth ffisiotherapi arbenigol yn ne Cymru - y gobaith yw y bydd deiliad swydd newydd wedi'i benodi erbyn mis Mai/Mehefin

·         Cynhelir cyfweliadau cynghorwyr gofal ymhen ychydig wythnosau - 3 swydd, 20 awr yr wythnos ym mhob un o dri rhanbarth Cymru

·         Mae cynrychiolwyr y rhwydweithiau yn cofnodi negeseuon fideo er mwyn pwysleisio pa mor ddeniadol yw'r swyddi fel rhan o'r rhwydwaith cyffredinol

·         Mae cymorth gweinyddol ychwanegol wedi bod yn ddefnyddiol i gynghorwyr gofal

·         Mae swm bach o gyllid cadair olwyn ychwanegol ar gael yn dilyn llithriant mewn cyllid

·         Rydym yn parhau i ymgysylltu â Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru

·         Mae trafodaethau â phartneriaid y GIG yn parhau

·         Diwrnod meincnodi'r rhwydwaith ddydd Iau 19 Mai gyda'r Scottish Muscle Network a'r De Ddwyrain - cyflwyniadau a gweithdai gyda chomisiynwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a chynrychiolwyr cleifion

·         Mae angen sail dystiolaeth gadarnach a bydd meincnodi yn cynorthwyo'r broses hon

·         Gall cynrychiolwyr cleifion gysylltu â Rebecca i gael bod yn bresennol

·         Ymwybyddiaeth o ofal niwrogyhyrol ymysg Prif Weithredwyr Byrddau Iechyd

·         Cyfarfodydd strwythuredig rheolaidd aml-ddisgyblaethol yn digwydd ar gyfer cynorthwyo timau


Pwyntiau trafod 

·         Dim man cyswllt ar gyfer ffisiotherapi ac mae'n anodd cael cefnogaeth barhaol - cyfeiriwyd yn ôl at y meddyg teulu ac ar restrau aros hir

·         Mae angen parhau i weld ffisiotherapydd cymunedol

·         Newid meddylfryd gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n labelu cyflwr fel rhywbeth i'w weld gan neb ond arbenigwyr bob amser

·         Mae'n bwysig nodi y gellir arbed arian drwy fuddsoddi

·         Mentrau gofal iechyd darbodus - ystyried ymyrraeth fuan

·         Cyflwyno busnes cryf mewn lleoliadau gwleidyddol a gofal iechyd

·         Pwysleisio'r diffyg cymharol o ran cyfleusterau ac felly dynnu sylw at bwysigrwydd ffisiotherapi ar gyfer ansawdd bywyd a byw'n annibynnol.